Ymwrthedd i wrthfiotigau yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n ein gwynebu ni heddiw.
Pam mae'n berthnasol i chi:
heb wrthfiotigau effeithiol bydd llawer o driniaethau cyffredin yn dod yn fwy a mwy peryglus. Mae ailosod esgyrn sydd wedi torri, llawdriniaethau sylfaenol, a hyd yn oed cemotherapi ac iechyd anifeiliaid i gyd yn dibynnu ar argaeledd gwrthfiotigau sy'n gweithio.
Beth rydym eisiau i chi ei wneud:
I arafu'r ymwrthedd, rydym eisiau i chi stopio gwneud defnydd diangen o wrthfiotigau. Tachwedd 18 yw Diwrnod Ymwybyddiaeth o Wrthfiotigau yn Ewrop. Fel rhan o'r diwrnod hwnnw, rydym yn gofyn i bawb yn y Rhanbarth Ewropeaidd, y cyhoedd, y ffermwyr a'r gymuned filfeddygol a meddygol, i ddod yn Warcheidwaid Gwrthfiotigau.
Galwad i weithredu:
Dewiswch un addewid syml i ddangos sut y byddwch chi'n gwneud gwell defnydd o wrthfiotigau er mwyn sicrhau na fydd y meddyginiaethau hanfodol yma yn colli pob effeithiolrwydd.